Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw’r person sydd ar goll mewn perygl uniongyrchol, yn blentyn ifanc neu’n agored i niwed, ffoniwch 999 nawr.
Does dim rhaid i chi aros 24 awr i riportio bod person ar goll. Nid ydych chi’n gwastraffu amser yr heddlu wrth roi gwybod bod person ar goll. Rydyn ni yma i’ch amddiffyn chi a’ch anwyliaid.
P’un ai os ydych chi’n riportio ar-lein neu’n ffonio 101, bydd ein hystafell reoli yn delio â chi yr un modd yn union. Byddwch chi’n cael e-bost yn cadarnhau ein bod wedi cael eich gwybodaeth ac yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf. Ac efallai y bydd yn haws i chi ateb y cwestiynau ar-lein ar eich cyflymder eich hun.
Cyn i chi ddechrau llenwi ffurflen person coll, byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi i wneud yn siŵr mai riportio eu bod ar goll ar-lein yw’r peth gorau i’w wneud.